Graddfa Kinsey

Cyfeiriadedd rhywiol
rhan o rywoleg
Gwahaniaethau

Anrhywioldeb · Cyfunrywioldeb · Deurywioldeb · Heterorywioldeb · Hollrywioldeb · Paraffilia · Unrhywioldeb

Labeli

Cwestiynu · Hoyw · Lesbiad · Queer

Dulliau

Graddfa Kinsey · Grid Klein

Astudiaeth

Bioleg · Demograffeg · Meddygaeth · Seicoleg

Anifeiliaid

Cyfunrywioldeb
mewn anifeiliaid
 ·

Gweler hefyd

Rhyngrywioldeb · Trawsrywedd · Trawsrywioldeb

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Bwriad Graddfa Kinsey yw i ddisgrifio hanes rhywiol unigolyn neu benodau o'i weithgarwch rhywiol ar adeg benodol. Defnyddir graddfa o 0 (yn hollol heterorywiol) i 6 (yn hollol gyfunrywiol). Caiff ei chamddefnyddio'n aml i raddio cyfeiriadedd rhywiol, yn enwedig deurywioldeb, yn nhermau unrhywioldeb. Yn Adroddiadau Kinsey, defnyddiwyd gradd ychwanegol ar gyfer anrhywioldeb. Cyhoeddwyd y syniadau yn gyntaf yn Sexual Behavior in the Human Male (1948) gan Alfred Kinsey, Wardell Pomeroy ac eraill, ac roedd hefyd yn thema bwysig yn y gwaith ategol Sexual Behavior in the Human Female (1953).

Wrth gyflwyno'r raddfa, ysgrifennodd Kinsey:

"Nid yw gwrywod yn cynrychioli dwy boblogaeth arwahanol, heterorywiol a chyfunrywiol. Nid yw'r byd i'w rannu'n ddefaid a geifr. Un o egwyddorion sylfaenol tacsonomeg yw mai prin y mae natur yn rhannu pethau yn gategorïau arwahanol... Un continwwm yw pob agwedd ar y byd byw.



Er ein bod yn pwysleisio bod dilyniant o raddiadau rhwng bod yn hollol heterorywiol ac yn hollol gyfunrywiol, teimlwn y byddai'n ddymunol datblygu rhyw fath o ddosbarthiad y gellir ei seilio ar y symiau cymharol o brofiad neu ymateb heterorywiol a chyfunrywiol ym mhob achos... Gellir rhoi unigolyn ar safle arbennig ar y raddfa hon, am bob cyfnod yn ei fywyd.... Graddfa 7-pwynt sy'n dod agosaf at ddangos y nifer o raddiadau sy'n bodoli mewn gwirionedd." (Kinsey ac eraill (1948), tt.639, 656)

Mae'r raddfa fel a ganlyn:

Safle Disgrifiad
0 Yn hollol heterorywiol
1 Heterorywiol yn bennaf, dim ond yn gyfunrywiol yn achlysurol
2 Heterorywiol yn bennaf, ond yn gyfunrywiol yn fwy nag achlysurol
3 Heterorywiol a chyfunrywiol yn gydradd
4 Cyfunrywiol yn bennaf, ond yn heterorywiol yn fwy nag achlysurol
5 Cyfunrywiol yn bennaf, dim ond yn heterorywiol yn achlysurol
6 Yn hollol gyfunrywiol
X Anrhywiol

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search